Cyfrifyddiaeth

 

Centre of Vocatioal Excellence

Total People is a Centre of Vocational Excellence

 

 

Investers in People

 


 
Robert Wild
 
     
     

Cyfrifyddiaeth

“Byddwn yn sicr yn awgrymu dysgu seiliedig ar waith i eraill. Mae’n cynnig sgiliau cynhwysfawr a phrofiad gwaith o ansawdd da a chymhwysedd”.

Gadawodd Robert Wild Ysgol Uwchradd Shavington gyda naw TGAU ac aeth i Chweched Dosbarth Malbank i astudio Lefel A. Dywed Robert, “Nid oeddwn eisiau mynd i’r Brifysgol gan fod y llwybr Prentisiaeth yn ddewis gwell - byddwn yn cael fy nhalu ac yn derbyn hyfforddiant a phrofiad yr un pryd”.

Ymgeisiodd Robert yn llwyddiannus am swydd gyda ‘Vickers Precision Engineering’ fel Prentis Cyfrifyddu. Mae ei waith yn ddifyr ac amrywiol ac yn golygu gweithio gyda’r cyfriflyfr pwrcasu, gwerthiant a’r llyfr arian.

Trefnodd Ymgynghorydd Hyfforddiant Total People ei raglen hyfforddiant, sy’n cynnwys ei ryddhau o’r coleg am hanner diwrnod, hyfforddiant yn y gweithle a chefnogaeth gan ei Reolwr, ac asesiad a datblygu sgiliau allweddol gan ei Asesydd Total People.

Beth yw’r gwaith?

Mae cyfrifyddiaeth yn golygu gweithio gyda chyfrifo a mantoli arian, felly mae’n cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfaol mewn ystod eang o sefydliadau ble mae angen rheolaeth ariannol. Mae hyn yn cynnwys busnesau mawr a bach yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ogystal â chwmnïau cyfrifyddu arbenigol.

Pa rinweddau ddylai fod gennyf?

I fod yn gyfrifydd llwyddiannus, byddwch angen sgiliau llythrennedd a rhifedd da a ffordd resymegol o ymdrin â phroblemau - a dylech werthfawrogi pwysigrwydd rhoi sylw i fanylion. Yn ddelfrydol byddwch yn gweithio ym maes cyfrifyddiaeth.

Beth fydd yr hyfforddiant yn ei olygu?

Byddwch yn cael eich hyfforddi mewn coleg ac yn y gweithle i ddod yn gymwys ymhob agwedd ar gyfrifyddiaeth. Byddwch yn cael y cyfle i ddewis opsiynau megis cofnodi dwbl, taliadau ac anfonebau, cyfrifyddu elw a cholledion a chreu mantolenni, rheoli costau, rheoli arian, archwilio, safonau cyfrifyddu rhyngwladol, a threthi personol a busnes.

Bydd rhaglen bersonol hyblyg yn cael ei datblygu a fydd yn addas i chi. Mae ein Hymgynghorwyr Hyfforddiant wrth law i gynnig cymorth mewnol a chyngor gyrfaol.

Ariennir hyfforddiant ar gyfer pob person 16-18 oed. Bydd un cyfraniad unigol ar gyfer pob lefel Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol i rai 19-24 oed.

Beth fyddaf yn ei gyflawni?

Prentisiaeth Uwch

  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 - Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu Canolradd
  • Sgiliau Sylfaenol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
  • Sgiliau Sylfaenol Lefel 2 mewn Cyfathrebu

Prentisiaeth

  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 – Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu Sylfaenol
  • Sgiliau Sylfaenol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhifau
  • Sgiliau Sylfaenol Lefel 1 mewn Cyfathrebu

Dilyniant Pellach

Unwaith y byddwch wedi llwyddo i ennill cymhwysedd mewn cyfrifyddu gallwch ddefnyddio hyn i ddatblygu eich gyrfa wrth weithio tuag at gymhwysedd lefel uwch. Bydd Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 4 yn darparu eithriad o gam cyntaf y mwyafrif o gymwyseddau cyfrifyddu, gan gynnwys rhai Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli a Chymdeithas y Cyfrifwyr Awdurdodedig Siartredig.

 

 

General Enquiries: 01606 734000

Email:info@totalpeople.co.uk