| Home |
| Employers |
| 16 - 24 year olds |
| 25 years and over |
| Train to Gain |
| Info for schools |
| Apprentice of the Year |
Total People is a Centre of Vocational Excellence


![]() |
||
Gwaith Saer ac Asiedydd
“Mae’r rhaglen Prentisiaeth wedi bod o fudd i mi gan fy mod yn gallu dysgu am waith saer, sef beth rwy’n ei fwynhau. Mae wedi rhoi hyder i mi ac annibyniaeth. Byddaf yn sicr yn annog yr hyfforddiant i eraill”.
Cafodd Chris McNeil ei ddymuniad! [“Make it happen” yn idiom Saesneg]
Yn ystod ei flwyddyn olaf yn yr ysgol penderfynodd Chris y byddai’n hoffi gyrfa yn y diwydiant adeiladu. Gadawodd Chris Ysgol Uwchradd All Hallows ym Macclesfield gyda 5 TGAU a chyda chefnogaeth Total People, ceisiodd am swydd gyda Chyngor Bwrdeistref Macclesfield.
Caiff Chris ei gyflogi fel Prentis Saer. Mae ei waith yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â thîm o seiri coed ac asiedyddion profiadol yn gosod ffenestri a byrddau sgyrtin, drysau, grisiau a thoeau. Mae’n symud o gwmpas gwahanol safleoedd a lleoliadau sy’n gysylltiedig â’r Cyngor Bwrdeistref gan gynnwys gweithio mewn tai preifat.
Gweithiodd ei Ymgynghorydd Hyfforddiant Total People gyda Chris i drefnu ei raglen hyfforddiant Prentisiaeth. Mae’n mynychu coleg un diwrnod yr wythnos a hefyd yn derbyn hyfforddiant ac arweiniad oddi wrth ei gydweithiwr yn ogystal â chymorth i adeiladu portffolio gan ei Ymgynghorydd Hyfforddiant.
Beth yw’r gwaith?
Mae’r diwydiant adeiladu yn codi tai, swyddfeydd, siopau, ysbytai, canolfannau hamdden, ffyrdd, priffyrdd - a llawer mwy. Oherwydd yr amrywiaeth, mae nifer o wahanol fathau o waith y gallwch eu dewis. Mae’r rhain yn cynnwys arolygu, gosod brics, gwaith saer ac asiedydd, peintio ac addurno, gwaith gyda sgaffaldiau, plastro, plymio, peirianneg sifil, pensaernïaeth, dylunio - a llawer mwy!
Pa rinweddau ddylai fod gennyf?
Byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch mentora ar y safle mewn nifer o weithgareddau a phrofiadau yn gysylltiedig â’r swydd. Byddwch yn cofnodi eich gweithgareddau a phrofiadau ar y safle ar ffurf dyddiadur sy’n dystiolaeth o’ch gallu. Caiff hyfforddiant ychwanegol ei ddarparu mewn Canolfan Hyfforddiant neu Goleg, gan ymdrin â’r wybodaeth greiddiol mewn gwaith saer ac asiedydd a’r Sgiliau Allweddol. Bydd asesiad ffurfiol yn cael ei gyflawni ar y safle ac yn y coleg.
Beth fydd yr hyfforddiant yn ei gynnwys?
Gan ddibynnu ar y maes crefft a ddewisiwch, bydd hyfforddiant ar y safle yn cael ei gynnal gan grefftwyr eraill a goruchwylwyr gydag amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau cysylltiedig â’r gwaith. Bydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu mewn Canolfan Hyfforddiant a Choleg lle caiff asesiadau i ffwrdd o’r gweithle eu cynnal yn unol â safonau Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol.
Beth fyddaf yn ei gyflawni?
Prentisiaeth Uwch
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 mewn Galwedigaethau Pren
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 mewn Galwedigaethau Pren
- Sgiliau Allweddol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau, Cyfathrebu, Gwella Eich Dysgu a Pherfformiad Lefel 1, Technoleg Gwybodaeth
- Tystysgrif Dechnegol Briodol
Prentisiaeth
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 mewn Galwedigaethau Pren
- Sgiliau Allweddol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau, Cyfathrebu, Gwella Eich Dysgu a Pherfformiad , Technoleg Gwybodaeth
- Tystysgrif Dechnegol Briodol
Datblygiad Pellach
Byddwch yn cael y cyfle i dderbyn hyfforddiant llawn i safonau cydnabyddedig, ac i ddod yn grefftwr neu dechnegydd cymwys. Dylwch hefyd allu symud i feysydd cysylltiedig eraill o fewn eich cwmni, gan gynnwys rheoli. Efallai bydd hyn yn golygu astudio am gymwysterau proffesiynol Lefelau 4 neu 5 neu hyd yn oed radd gydag Athrofa gysylltiedig â’ch maes gwaith.
General Enquiries: 01606 734000
Email:info@totalpeople.co.uk


