Gwasanaeth Cwsmeriaid

 

Centre of Vocatioal Excellence

Total People is a Centre of Vocational Excellence

 

 

Investers in People

 


 
Customer Service
 
     
     

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid da yn hanfodol i gynnal perthynas a chadw busnes”.

Mae Kris Flynn a Gemma Russell yn gweithio yn Barclays yn Northwich.

Mae Gemma, sy’n Rheolwr Cymorth i Fusnesau Lleol, yn gyfrifol am ymdrin â galwadau gan gwmnïau bach, a’u cynorthwyo gyda’u hanghenion bancio o ddydd i ddydd gan gynnwys benthyca a throsglwyddiadau. 

Mae wedi cwblhau ei chymhwyster Lefel 3 Canolfan Cyswllt drwy Total People, a bellach yn gweithio ar ei Lefel 3 Gwasanaeth Cwsmeriaid.

‘Roeddwn eisiau cymryd rhan i ddatblygu fy ngyrfa,’ meddai Gemma. ‘Mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy Sgiliau Gwasanaeth Cwsmeriaid ac rwyf bellach yn gallu cynorthwyo fy nghydweithwyr gyda sut maent yn ymdrin â chwsmeriaid.’
Cynorthwyir Gemma ei chefnogi gan Gynghorwyr Hyfforddiant Total people. ‘Maent yn wych,’ eglura Gemma. ‘Maent wastad ar ben draw'r ffôn os wyf angen cymorth ac maent yn treulio amser â mi i sicrhau fy mod yn fodlon ac yn gwybod beth rwy’n ei wneud. Mae Total People yn sefydliad ardderchog. Mae'n cynorthwyo cymaint o wahanol bobl ac yn cynnig gymaint o wahanol bobl [blerwch!] ac yn cynnig cymaint o wahanol hyfforddiant. Rwyf eisoes yn cynllunio i wneud cymhwyster TG nesaf!’ 

Mae Kris Flynn yn un o Reolwyr Cymorth Gwledig ifancaf Barclays. Mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys gweithgareddau bancio dyddiol cannoedd o ffermwyr - gyda llawer ohonynt wedi bod gyda’r banc ers dros hanner can mlynedd.

‘Mae’r sector amaethyddol yn bwysig iawn i Barclays,’ meddai Kris. ‘Mae gwasanaeth cwsmeriaid da yn angenrheidiol i gynnal perthynas a chadw busnes [hwn wedi’i gyfieithu’n gywir eisoes uchod!].’
Mae Kris yn gweithio tuag at ei gymhwyster Lefel 3 Gwasanaeth Cwsmeriaid gyda chymorth Total People. ‘Mae’n eithaf hawdd i gyflawni’r gwaith ar gyfer y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol gan fod y rhan fwyaf ohono’n golygu casglu tystiolaeth o’r hyn rwy’n ei wneud o ddydd i ddydd,’ eglura Kris. ‘Y cwbl rwyf yn ei wneud yw profi fy mod yn gallu gwneud fy swydd.’

Mae Kris hefyd yn derbyn cymorth gan Gynghorydd Hyfforddiant penodol gyda Total People. ‘Rwy’n gwybod y gallaf alw os dwi angen unrhyw gymorth. Mae’r gwasanaeth yn wych ac rwy’n awyddus i ddechrau hyfforddiant arall unwaith mae fy Ngwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 3 wedi ei gwblhau. Mae datblygiad personol yn bwysig iawn. Gallwch adnabod gwelliannau, ennill mwy o wybodaeth a hyder, a dod yn aelod staff mwy gwerthfawr. Byddwn yn awgrymu Total People a’r Llwybr Prentis i unrhyw un.’

Beth yw’r gwaith?

Mae gan bob sefydliad gwsmeriaid, ac i fod yn llwyddiannus mae angen i gwmnïau gael staff a all ymdrin yn effeithiol a boddhaol â chwsmeriaid. Bydd derbyn cymhwyster Gwasanaeth Cwsmeriaid yn rhoi sgiliau gwerthfawr i chi a all gael eu trosglwyddo i unrhyw faes galwedigaethol. I’ch galluogi i ddangos eich bod yn gallu cyrraedd y safonau cenedlaethol byddwch yn cael eich hyfforddi mewn ymdrin â meysydd megis Ymdrin â [cadwa ‘delio’ i’r iaith lafar!] Chwsmeriaid Anodd, Gwneud eich Gwasanaeth Cwsmeriaid yn fwy Dibynadwy a Datrys Problemau Cwsmeriaid.   

Pa rinweddau ddylai fod gennyf?

Er mwyn bod yn Weithiwr Gwasanaeth Cwsmeriaid Proffesiynol, rhaid i chi fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol, mwynhau ymdrin â phobl a bod â’r gallu i fynd i’r afael â phroblemau cwsmeriaid.
Beth fydd yr hyfforddiant yn ei gynnwys?
Mae yna gymysgedd o hyfforddiant yn y gweithle ac i ffwrdd o’r gweithle. Bydd gweithdai yn cael eu trefnu i ddiwallu anghenion unigol.

Beth fyddaf yn ei gyflawni?

Prentisiaeth Uwch

  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Sgiliau Allweddol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhifau
  • Tystysgrif Dechnegol Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 3
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr

Prentisiaeth

  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Sgiliau Allweddol Lefel 1 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhifau
  • Tystysgrif Dechnegol Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr

Datblygiad Pellach

Unwaith yr ydych wedi cyflawni cymhwysedd mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, efallai y byddwch yn dymuno datblygu eich gyrfa drwy symud i rôl goruchwylio neu reoli neu efallai y byddwch yn dymuno arbenigo mewn meysydd busnes megis: Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu neu Gyfrifo.

 

 

General Enquiries: 01606 734000

Email:info@totalpeople.co.uk