| Home |
| Employers |
| 16 - 24 year olds |
| 25 years and over |
| Train to Gain |
| Info for schools |
| Apprentice of the Year |
Total People is a Centre of Vocational Excellence


![]() |
||
|
Trin Gwallt
“Dylai unrhyw un sydd eisiau bod yn driniwr gwallt gyfuno gwaith a hyfforddiant; dyma’r unig ffordd o gael y sgiliau ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth dechnegol”.
Gan fod trin gwallt yn esblygu’n barhaol, mae angen pobl ifanc creadigol i gwrdd â gofynion y diwydiant. Mae John Hughes, Will Bennett a Darisha Ditchfield i gyd yn gweithio mewn salonau ar draws Gogledd Orllewin Lloegr ac yn cael cymorth gan Total People.
Mae John yn gweithio tuag at ei Brentisiaeth Uwch mewn trin gwallt yn Hairtrader yn Sandbach. “Rwyf wrth fy modd yn torri gwallt”, dywed John. “Mae gen i angerdd tuag ato. Dylai unrhyw un sydd am fod yn driniwr gwallt gyfuno gwaith a hyfforddiant; dyma’r unig ffordd o gael y sgiliau ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth dechnegol. Mae Total People wastad yn gefnogol a theg; unwaith fy mod wedi cwblhau’r cymhwyster yma rwyf eisiau parhau gyda hyfforddiant pellach, Total People a’r Brentisiaeth yw’r allwedd i lwyddiant”.
Mae Darshia, o Wilson’s yn Northwich, yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn trin gwallt. “Dwi’n cael y fath brofiad gwych mewn salon,” dywed Darshia. “Pan rwy’n cwrdd â phobl eraill sydd ddim ond wedi mynd i’r coleg a heb ddysgu yn y gweithle does ganddynt ddim ond dealltwriaeth sylfaenol oherwydd nad oes ganddynt y profiad ymarferol. Mae Total People yn gosod targedau realistig ac rwy’n teimlo’n gyfforddus i ofyn i fy Nghynghorydd Hyfforddiant am gymorth os oes angen. Credaf y byddwn yn dymuno parhau gyda hyfforddiant a chael cymhwyster rheoli yn y pen draw”.
Mae Will, o Murphy’s yn Alderley Edge, yn gwneud Prentisiaeth mewn Gwaith Barbwr. “Os ydych eisiau ennill cyflog yn ogystal â dysgu yna mae Total People a Phrentisiaeth yn sicr i chi. Mae fy Nghynghorydd Hyfforddiant yn wych – mai hi bob amser yn barod ei chymorth i mi a byddwn yn sicr yn annog y llwybr Total People a’r Brentisiaeth i unrhyw un. I’r dyfodol byddwn yn hoffi parhau i ddysgu gyda Total people, gyda’r bwriad o agor fy musnes fy hun”.
Beth yw’r gwaith?
Gyda salonau’n gweithredu mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad mae llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith fel triniwr gwallt. Byddwch yn dysgu am dorri a siapio gwallt a byddwch hefyd yn dysgu am ofal a gwasanaeth cwsmeriaid. Unwaith y byddwch wedi ennill eich cymwysterau mae’r cyfloed sydd ar gael yn cynnwys gweithio mewn salon, ar gychod mordaith, fel triniwr gwallt sesiwn i sioeau ffasiwn, fel darlithydd, fel technegydd i gynhyrchwyr mawr, neu hyd yn oed yn y diwydiant ffilm neu deledu.
Pa rinweddau ddylai fod gennyf?
Dylwch fod â dawn greadigol, sgiliau cyfathrebu da, stamina ac amynedd, a dylech fod yn ddibynadwy a hyblyg. Dylech hefyd fod â chymhelliad da ac yn ymwybyddiaeth o’r ffasiynau gwallt a dillad diweddaraf.
Be fydd yr hyfforddiant yn ei gynnwys?
Byddwch yn dysgu ystod o sgiliau, gan gynnwys technegau trin gwallt, gwasanaeth cwsmeriaid, a chyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes. Gallwch wneud eich hyfforddiant yn fewnol neu ei gyfuno gyda chael eich rhydau am ddiwrnod i fynd i goleg neu at ddarparwr hyfforddiant.
Beth fyddaf yn ei gyflawni?
Prentisiaeth Uwch mewn Trin Gwallt
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 mewn Trin Gwallt
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 mewn Trin Gwallt
- Diploma mewn Trin Gwallt (Tystysgrif Dechnegol)
- Sgil Allweddol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Sgil Allweddol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
Prentisiaeth mewn Trin Gwallt/Gwaith Barbwr
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 Trin Gwallt/ Gwaith Barbwr
- Sgil Allweddol Lefel 1 mewn Cyfathrebu
- Sgil Allweddol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhifau
Dilyniant Pellach
Unwaith y byddwch wedi cymhwyso fel triniwr gwallt proffesiynol bydd y manteision yn cynnwys:
- Cyflogadwyedd gwell
- Potensial i ennill cyflog uchel
- Y cyfle i arallgyfeirio i feysydd ffasiwn eraill
- Sgil a phroffesiwn fydd yn parhau drwy’ch bywyd.
General Enquiries: 01606 734000
Email:info@totalpeople.co.uk


